Tell us a little about your business
We sell Kubota tractors, RTV’s, groundcare and construction machinery, Kverneland machinery, Nugent trailers and machinery, and Bunning spreaders.
These are the main brands but we do supply equipment from other manufacturers such as MX, ALO, OPICO, CHAPMAN, WESSEX and many more.
Soniwch ychydig am eich busnes
Fel cwmni rydym yn gwerthu tractorau Kubota, RTV’s ac rydym yn arbenigo mewn peiriannau gofal tir ac adeiladwaith ysgafn. Peiriannau Kverneland; trelars a pheiriannau Nugent a gwasgarwyr Bunning. Dyma’r prif frandiau ond rydym hefyd yn cynnig offer gan y cwmnïau yma a mwy: MX, ALO, OPICO, CHAPMAN, WESSEX.
How many people are employed by the business?
We are a team of 16, we are four brothers and one sister, and we currently have 12 full time staff across the two branches supplying a service across Pembrokeshire, Carmarthenshire and Ceredigion. The next generation of the family, Owain and Gethin are now also part of the team.
Faint mae’r busnes yn cyflogi?
Rydym yn dîm o 16. Yn bedwar brawd ac un chwaer, ac ar hyn o bryd mae 12 aelod o staff llawn amser ar draws y ddau leoliad. Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth yn digwydd ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae cenhedlaeth nesa’r teulu, sef Owain a Gethin hefyd yn rhan o’r busnes.
How have things changed in the business over the years?
The business was started in the early 70s by our late father John Eurig Rees.
Tractor horse-power has increased massively from when I joined the business. It used to be that a big tractor for this area would be something like a 110hp, today it isn’t unheard of to see 300hp tractors being sold.
The cost of stock is also huge, for example a new plough in 2004 would be somewhere in the region of £15k. This year we’ve already sold a couple of ploughs for £50k.
New tractors back 20 years ago would be £30k, and today some of them are £150-£200k if not more!
Sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd?
Dechreuwyd y busnes nol yn y 70au gan ein tad John Eurig Rees.
Mae pŵer y tractor wedi newid yn sylweddol. Byddai tractor mawr wedi bod yn 110hp ond heddiw mae tractor 300hp yn cael ei gwerthu.
Mae cost stoc yn enfawr hefyd, er enghraifft roedd arad newydd yn 2004 tua £15k lle heddiw rydym wedi gwerthu i ffermydd am £50k. Byddai tractor 20 mlynedd nol tua £30k, ond heddiw clywn am rai sydd £150k-£200k os nad yn fwy!
What is the best thing about the brands you sell?
Some of the brands we sell have a great market share, for example Kverneland ploughs always have around 50% market share in the UK, and that makes our work a lot easier as the machines almost sell themselves. They also have a great market share with the Siloking feeder wagons, the top of the range fertiliser spreaders are popular and very good quality. Kverneland are a great company to deal with.
Kubota also has a great name, the tractors have built up a great market share. Kubota RTV’s are becoming very popular in the area, and the ground-care is also a number 1 brand in the UK and that again makes our work a lot easier.
Bunning rear discharge muck spreaders are also the UK’s number one and very popular in West Wales. We also sell some 100-150 Nugent trailers annually.
Beth yw’r peth gorau am eich brandiau?
Mae nifer o’n brandiau gyda cyfran o’r farchnad arbennig, er enghraifft mae arad Kverneland gyda cyfran o 50% ym Mhrydain ac mae hynny’n hwyluso ein gwaith ni oherwydd maent bron yn gwerthu eu hun. Mae cyfran o’r farchnad da iawn gyda Siloking, mae’r peiriannu gorau yn boblogaidd ac yn arbennig o dda ac mae cwmni Kverneland yn wych i ddelio gyda nhw.
Mae gan Kubota enw da ac mae’r tractorau wedi magu cyfran o’r farchnad wych. Gwelir cynnydd mewn poblogrwydd o’r Kubota RTV ac mae’r gofal tir yn frand rhif un ym Mhrydain. Mae hyn oll yn gwneud y gwaith o werthu tipyn yn haws. Mae’r gwasgarwyr tail Bunning yn rhif un ym Mhrydain ac yn boblogaidd iawn yma yng Ngorllewin Cymru. Hefyd, byddwn yn gwerthu tua 100-150 o drelars Nugent yn flynyddol.
What has been the most memorable moment in the business?
For us it must be the opening of the second branch at Llandovery some 10 years ago. It was a great day supported by a lot of our loyal customers, and we also met many prospective new customers. The day was very well attended.
Beth yw’ch atgof gorau yn y cwmni?
Mae’n rhaid bod agoriad ein ail leoliad yn Llanymddyfri tua 10 mlynedd ‘nol. Roedd yn ddiwrnod arbennig. Cawsom nifer o hen gwsmeriaid yn ein cefnogi, a gwelwyd llawer o bobl newydd.
What is your unique selling point?
If we can help a customer we will. If something is broken down and we cannot fix it we’ll get a replacement tractor out on loan so that they are able to carry on with their work.
We also try to make sure that used tractors and machinery are thoroughly checked over in the workshop prior to delivery. If something is not right we’d rather trade it (but tell them about the faults). We always try to be fair with everyone as you want their repeat custom.
Beth sy’n arbennig amdan JE Rees?
Os gallwn helpu cwsmer gwnawn! Os ni methu trwsio rhywbeth yn syth byddwn o hyd yn darparu offer i sicrhau bod y ffarmwr yn gallu cadw at ei waith.
Mae’r cwmni hefyd yn sicrhau bod peiriannau ail-law yn cael gofal arbennig a’i gwirio yn drylwyr cyn gadael y gweithdy. Ein bwriad yw bod yn deg er mwyn sicrhau partneriaeth ar gyfer y dyfodol.
Any plans for an open day?
We have just completed a new purpose-built building at Felindre with new stores, office space, disabled toilets, kitchen and a display area.
We plan to hold an open day in the autumn to officially open this building.
Oes rhywbeth ar y gweill am ddiwrnod agored?
Yn dilyn gwaith ar wella safle Felindre gyda stordy newydd, swyddfa, toiledau anabl, cegin ac ardal arddangos rydym yn gobeithio cynnal diwrnod agored yn yr Hydref i agor y safle yn swyddogol.
Have you organised any recent fundraising?
We raised money for the Air Ambulance during our last open day and we donated a new Nugent livestock trailer to the RWAS some years ago when a very good customer and friend was President. We also donated our used exhibition trailer to Tir Dewi Charity for their use.
Codi Arian?
Yn ystod ein diwrnod agored diwethaf codwyd arian ar gyfer yr Ambiwlans Awyr a hefyd rhoddwyd trelar Nugent i’r CAFC pan oedd ffrind agos yn Lywydd. Rydym wedi rhoi ein trelar arddangos i Elusen Tir Dewi iddyn nhw gael defnyddio.
What's coming up for the business?
We try and support the local agricultural shows when time permits and we will continue to do so this year when possible. Kubota are always expanding and have a range of compact telehandlers coming to the market that we’ll be promoting during the show season.
We have also demonstrated at this year’s grassland event at Trawscoed, Aberystwyth.
Beth sydd ar y gweill?
Fel yr arfer rydym yn mwyhau cefnogi ein sioeau amaethyddol lleol a byddwn yn dal ati i wneud pan fo amser yn caniatáu. Mae Kubota yn tyfu o hyd a bydd telehandlers newydd yn cyrraedd y farchnad cyn bo hir ac i’w gweld gyda ni ar draws tymor y sioeau.
Rydym hefyd wedi arddangos yn nigwyddiad Glaswellt a Thail CAFC yn Nhrawscoed, Aberystwyth.
Get in touch:
Website – www.jerees.co.uk
Email – sales@jerees.co.uk
Felindre Depot – 01559 370 601
Llandovery Depot – 01550 721 810
Facebook – J. E. Rees & Sons