How did it all begin?
It all started over 25 years ago with one man and his passion for tractors. Richard Baggott Ltd was founded by Richard himself, who’s been part of the farming world all his life, working on the family farm until 1997.
Richard began trading tractors on a small scale at Penclawdd, often fitting it in around the farm work. As things grew, we moved to Newcastle Emlyn to give the business space to stand on its own two feet. That’s where Richard took the leap into running things full-time, and he hasn’t looked back since!
These days, you’ll find Richard Baggott Ltd based at Cilwaunydd Fach, Capel Iwan.
Sut wnaeth y cyfan ddechrau?
Dechreuodd y cyfan dros 25 mlynedd yn ôl gyda dyn a’i gariad at dractorau.Sefydlwyd cwmni Richard Baggott Cyf gan Richard, dyn sydd wedi bod yn rhan o’r byd amaeth erioed.
Ar ôl gweithio ar y fferm deuluol tan 1997, dechreuodd Richard fasnachu tractorau ar raddfa fach ym Mhenclawdd, gan wneud hynny ochr yn ochr â gwaith y fferm.Wrth i’r busnes dyfu, symudodd y teulu i Gastell Newydd Emlyn i roi cyfle i’r cwmni ddatblygu’n annibynnol. Yno y dechreuodd y gwaith llawn amser, ac ers hynny mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth.
Heddiw, cartref y cwmni yw Cilwaunydd Fach, Capel Iwan.
What do you offer customers?
We specialise in quality second-hand tractors and a selection of used machinery.
Whether you’re looking for a reliable workhorse or something specific for the yard, Richard is always happy to help you find the right fit.
We also offer haulage when needed, whether you’re local or further afield across the UK.
Beth all cwsmeriaid ei ddisgwyl gennych chi?
Rydym yn arbenigo mewn tractorau ail-law o ansawdd da ac ambell beiriant amaethyddol.
P’un a ydych yn chwilio am beiriant dibynadwy ar gyfer y gwaith dyddiol neu rywbeth penodol ar gyfer y fferm, mae Richard wastad yn barod i helpu i ddod o hyd i’r un iawn.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cludiant pan fo angen, boed hynny’n lleol neu’n bellach ar draws Prydain.
Who keeps everything running smoothly?
It’s very much a family affair. Richard runs the business day-to-day, while I keep things ticking along smoothly on the admin side. We’re also supported by a self-employed mechanic who lends a hand part-time when needed.
Pwy sy’n cadw’r cyfan i redeg yn llyfn?
Mae’n fusnes teuluol go iawn. Richard sy’n rhedeg y busnes o ddydd i ddydd, tra fy mod i’n cadw popeth i redeg yn esmwyth ar yr ochr weinyddol. Rydym hefyd yn cael cymorth gan beiriannydd llawrydd sy’n rhoi help llaw yn rhan-amser pan fo angen.
How have things changed over the years?
Over the years, technology has transformed how the business runs.
In the early days, Richard would travel hundreds of miles to view tractors and make new contacts. Now, thanks to the internet, mobile phones and iPads, a lot of that can be done from the yard.
Price changes and online listings mean customers are better informed than ever – which keeps things fair and transparent for everyone.
Sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd?
Dros y blynyddoedd, mae technoleg wedi newid popeth.
Yn y dyddiau cynnar, roedd rhaid i Richard deithio cannoedd o filltiroedd i weld tractorau ac i wneud cysylltiadau.
Heddiw, mae llawer o’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud o’r iPad neu’r ffon symudol!
Mae prisiau a gwybodaeth ar gael yn haws erbyn hyn hefyd, sy’n gwneud pethau’n decach ac yn fwy tryloyw i bawb sy’n prynu neu’n gwerthu.
What’s your most memorable moment?
One of the proudest moments for Richard was the day he was able to take the business to the next level, working on a full time basis.
His lifelong love of tractors shines through in everything he does, from how he sources machines to the care and attention he gives every customer.
Beth yw eich foment fwyaf cofiadwy?
Un o uchafbwyntiau’r daith oedd y diwrnod pan allodd Richard redeg y busnes yn llawn amser.
Mae ei gariad at dractorau’n amlwg ym mhopeth mae’n ei wneud, o’r ffordd mae’n dewis peiriannau i’r gofal mae’n rhoi i bob cwsmer.
What makes you stand out?
Good customer service has always been at the heart of what we do. If there’s ever a problem, we make sure it’s rectified promptly and to the very best of our ability – happy customers are what keep us going.
We also believe in supporting our local community, so you’ll often find Richard at local auctions, chatting with familiar faces and keeping in touch with customers old and new.
Beth sy’n eich gwneud mor arbennig?
Mae gwasanaeth da i’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn. Os oes problem, rydym yn ei datrys yn gyflym ac yn deg – dyna sy’n gwneud i gwsmeriaid ddod yn ôl dro ar ôl tro.
Rydym hefyd yn credu’n gryf mewn cefnogi’r gymuned leol. Byddwch yn aml yn gweld Richard mewn arwerthiannau lleol, yn cadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid hen a newydd ac yn rhannu sgwrs neu ddau!
How do you give back, and celebrate as a family?
We’re planning a Tractor Road Run in 2026 to raise money for a diabetes charity – a cause close to our hearts since our daughter has been diagnosed with Type 1 Diabetes.
Last year also brought a more personal celebration with our daughter’s wedding. The tractor shed was cleared out and transformed into a party venue, with Richard’s collection of classic tractors proudly lined up in the garden outside. Quite the sight!
Sut ydych chi’n rhoi’n ôl - ac yn dathlu fel teulu?
Rydym yn bwriadu trefnu Taith Tractorau yn 2026 er mwyn codi arian i elusen Diabetes, sy’n agos iawn at ein calonnau ers i’n merch gael diagnosis o Ddiabetes Math 1.
Roedd dathliad arbennig arall y llynedd hefyd, priodas ein merch! Cliriwyd y sied tractorau, a threfnwyd parti priodas yno, gyda’r hen dractorau clasurol i’w gweld yn rhes daclus yn yr ardd. Golygfa i’w chofio!
What’s next for Richard Baggott Ltd?
At Richard Baggott Ltd, we’re proud of our roots and excited for the future – continuing to offer quality second-hand tractors at fair prices, backed by honest advice and good, old-fashioned service.
Beth sydd nesaf i Gwmni Richard Baggott Cyf?
Rydym yn falch o’n gwreiddiau ac yn edrych ymlaen at barhau i gynnig tractorau ail-law o safon am bris teg, gyda chyngor gonest a gwasanaeth cyfeillgar.
Contact Richard Baggott
Yard: 01559 371212
Mobile: 07966 544958
Email: Richard@richardbaggott.co.uk
Web: richardbaggotttractors.com
Facebook: Richard Baggott



